Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Baner Draig Goch 3' x 2' - 320

GBP - £3.95
USD (approx) - $5.23
EUR (approx) - €4.45

Baner Cenedlaethol Cymru. Rhoddwyd statws swyddogol i'r faner yn 1959, ond cysylltwyd y ddraig goch gyda Chymru ers canrifoedd, ac mae rhai'n honni mai dyma'r faner genedlaethol hynaf sy'n dal mewn defnydd. Collwyd yr hanes gwreiddiol am fabwysiadu'r ddraig fel y symbol mewn cwmwl o fytholeg. Theori credadwy yw fod y Rhufeiniad wedi dod a'r ddraig i Gymru yn ystod eu cyfnod yn meddiannu Prydain, ond gallai fod hyd yn oed yn hyn na hyn.

Cysylltir nifer o chwedlau gyda'r ddraig Gymreig. Yr enwocaf yw proffwydoliaeth Myrddin o frwydr hir rhwng draig goch a draig wen. Yn ôl y broffwydoliaeth, byddai'r ddraig wen yn gyntaf yn dominyddu ond y ddraig goch fyddai'n ennill yn y diwedd. Legori yw hyn o'r frwydr hanesyddol rhng y Cymry a'r Saeson.

100% Polyester gyda 2 llygaden pres.

Maint: 3' x 2'


Ychwanegu i'r Fasged Siopa:

Hawlfraint © 2017 | Anrhegion Cadwyn Gifts