Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Bagiau Lledr, Morocco

Artisan Bahije Ahmed & Cadwyn Director Ffred Ffransis

Ym Marrakech y mae’r maes prysuraf ar gyfandir Affrica – y Place Jamaa El Fna. Yma mae’r borth i ’r labyrinth o rodfeydd tan do sy’n ffurfio’r farchnad fwyaf ym Morocco.

Mae pob souk (marchnad neu ardal) yn canolbwyntio ar grefft arbennig. Dyma eich tywys i’r Souk Cherratine a gweithdy’r crefftwr medrus BAHIJE AHMED sydd wedi creu’r ddwy fag hardd ond ymarferol ar eich cyfer. Maent hefyd yn cael eu cynhyrchu yn ninas ganoloesol Fes. Efallai y bydd rhai ohonoch yn ei gofio gan iddo dreulio wythnos yn Eisteddfod Llanelli 2000 yn rhan o ymweliad 3 mis a Chymru yn westai i Cadwyn.

Gwybodaeth am Morocco - Ein polisi Masnach Deg - Yn ôl i 'Yn Arbennig o'r Affrig'

Pwyswch yma i weld lluniau o'n trip diweddaraf i Marrakech ym Moroco



Llun Nwydd Enw'r Eitem+ Pris
Bag Ysgwydd Lledr - 432

Bag Ysgwydd Lledr - 432

Bag ysgwydd hyfryd wedi'i wneud o ledr go iawn. Defnyddir yr holl sgiliau a ddysgwyd yn y souks i’w chreu yn y lledr gorau. Mae claspyn magnetig ar y...
GBP - £29.95

... mwy o wybodaeth

Bag Ysgwydd Lledr Pwtsh Ffôn Symudol - 436

Bag Ysgwydd Lledr Pwtsh Ffôn Symudol - 436

Bag ysgwydd, gyda phwtsh ffôn symudol ar y straben, wedi'i wneud o ledr go iawn. Defnyddir yr holl sgiliau a ddysgwyd yn y souks i’w chreu yn y lledr...
GBP - £39.95

... mwy o wybodaeth


Hawlfraint © 2013 | Anrhegion Cadwyn: Ffôn. 01559 384378 | Ebost. archebion@cadwyn.com | Pwerir gan Zen Cart