Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Byd Cnau Coco

Planet CoconutMae Cadwyn yn cyflwyno o Bali amrywiaeth o anrhegion Masnach Deg ac eitemau i'r cartref wedi'u gwneud â llaw o gnau coco. Defnyddir y cregyn, dail a phren y goeden i gynhyrchu anrhegion unigryw.

Cynhyrchir anrhegion Masnach Deg "Byd Cnau Coco" mewn gweithdy bychan a sefydlwyd yn 1999 gan Ffrancwr. Lleolir y gweithdy mewn pentref bychan yn Indonesia a chyflogir 40 o bobl yno. Mae Rheolwr y Gweithdy bellach yn ddinesydd Indonesaidd a ganwyd a magwyd ei 5 plentyn yno. Rydym wedi bod yn cyd-weithio a hybu nwyddau cnau coco ers 5 mlynedd bellach a chafodd trigolion y pentref fudd masnachol o’r herwydd. Mabwysiadodd y gweithdy a "Byd Cnau Coco" Siarter Masnach Deg.

Mae "Byd Cnau Coco" yn b rosiect datblygu cynaliadwy. Tyfir y coed cnau coco yn y trofannau ac maent yn perthyn i deulu'r coed palmwydd. Gall y goeden gynhyrchu cnau coco am dros 60 mlynedd. Bob blwyddyn mae'r coed coco'n cynhyrchu 11 miliwn tunnell o olew cnau coco, 5 miliwn tunnell o copra a 500 miliwn tunnel o risgl. Coeden bywyd go iawn! - gan mor amrywiol yw'r defnydd ohoni.

Caiff coed cnau coco eu trin gan 11 miliwn o ffermwyr. Pan fo'r goeden yn 65 mlwydd oed nid yw'n gallu cynhyrchu dim ac felly nid yw o ddefnydd amaethyddol. Gellir defnyddio'r hen foncyffion a'r pren coco wedyn i greu nwyddau. Nod "Byd Cnau Coco" yw ail-gylchu'r holl ddeunyddiau naturiol a gynhyrchir gan y goeden hon. Mae "Byd Cnau Coco" yn creu a datblygu nwyddau hyfryd i'r cartref trwy ddefnyddio'r deunyddiau naturiol yma, a hefyd yn cynorthwyo i blannu coed newydd er mwyn cynnal pwysigrwydd amaethyddol a chymunedol y goeden cnau coco.




Llun Nwydd Enw'r Eitem Pris+
Daliwr a Blwch Arogldarthau - 485

Daliwr a Blwch Arogldarthau - 485

Daliwr a blwch arogldarthau mewn pren cnau coco. Gall wrthsefyll gwres hyd at 110°C 27 x 4 x 5.5 cm
GBP - £5.99

Ychwanegu:

Daliwr Sebon - 487

Daliwr Sebon - 487

Mae Cadwyn yn cyflwyno o Bali amrywiaeth o anrhegion Masnach Deg ac eitemau i'r cartref wedi'u gwneud â llaw o gnau coco. 14 x 9.5 x 1.2cm
GBP - £5.99

Ychwanegu:

Cannwyll plisgyn cnau coco llathredig - 481

Cannwyll plisgyn cnau coco llathredig - 481

Cannwyll plisgyn cnau coco llathredig, gyda gwaelod pren cnau coco, a cwyr palmwydd naturiol. Bydd yn para rhyw 15 awr. 8 cm diameter.
GBP - £7.75

... mwy o wybodaeth

2 Gwpan Cnau Mwnci gwastad - 486

2 Gwpan Cnau Mwnci gwastad - 486

Mae Cadwyn yn cyflwyno o Bali amrywiaeth o anrhegion Masnach Deg ac eitemau i'r cartref wedi'u gwneud â llaw o gnau coco. Mae'r Cwpannau Cnau Mwnci...
GBP - £7.99

Ychwanegu:

Pâr o Ganhwyllau Cnau Coco Aromatig - 483

Pâr o Ganhwyllau Cnau Coco Aromatig - 483

Cannwyll aromatig mewn pren cnau coco. Gellir dewis rhwng canhwyllau aromatig, sy'n cynnwys olewau naws Eucalyptus, Oren, Cananga, Lafant, Rhosyn neu...
GBP - £7.99

... mwy o wybodaeth

Canwyllbren argaenwaith cnau coco crwn (bach) - 484a

Canwyllbren argaenwaith cnau coco crwn (bach) - 484a

Canwyllbrennau argaenwaith cnau coco crwn, gyda cwyr palmwydd naturiol. 10 x 7 cm
GBP - £8.95

Ychwanegu:

Daliwr Ysgrifbin - 488

Daliwr Ysgrifbin - 488

Mae Cadwyn yn cyflwyno o Bali amrywiaeth o anrhegion Masnach Deg ac eitemau i'r cartref wedi'u gwneud â llaw o gnau coco. 10 x 10 x 10 cm
GBP - £8.95

Ychwanegu:

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482a

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482a

AROGL CNAU COCO. Cannwyll masnach deg plisgyn cnau coco aromatig gyda sylfaen plisgyn cnau coco, mewn blwch wedi'i ailgylchu. Mwynhewch arogl...
GBP - £10.95

Ychwanegu:

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482d

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482d

AROGL CANANGA. Cannwyll masnach deg plisgyn cnau coco aromatig gyda sylfaen plisgyn cnau coco, mewn blwch wedi'i ailgylchu. Mwynhewch arogl aromatig...
GBP - £10.95

Ychwanegu:

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482e

Cannwyll Arogl Cnau Coco - 482e

AROGL TE GWYRDD. Cannwyll masnach deg plisgyn cnau coco aromatig gyda sylfaen plisgyn cnau coco, mewn blwch wedi'i ailgylchu. Mwynhewch arogl...
GBP - £10.95

Ychwanegu:



Hawlfraint © 2013 | Anrhegion Cadwyn: Ffôn. 01559 384378 | Ebost. archebion@cadwyn.com | Pwerir gan Zen Cart