Burkina Faso yw'r 5ed gwlad dlotaf yn y byd. Ychydig iawn o adnoddau na manteision naturiol sydd gan y wlad, ac o hyn y deillia'i thlodi.
Gallwn ni ddysgu llawer oddi wrth yr agweddau cadarnhaol at bobl sydd tan anfantais corfforol. Mae llawer ohonynt wedi ymffurfio'n gylchoedd o grefftwyr tan anfantais corfforol ac yn ennill bywoliaeth a pharch mawr trwy eu dyfeisgarwch yn creu anrhegion unigryw. Un o'r cylchoedd hyn yw 'Co-operative Wend La Mita' - sef "Duw sy'n deall" yn iaith More - a leolir yn Ouagadougou. Cylch Wend La Mita sy'n cynhyrchu'r matiau diod hyfryd. Cafodd cylch arall o grefftwyr tan anfantais corfforol ei sefydlu gan Zabsonre Jean-Roger yn Tenkodogo. Y cylch yma sy'n cynhyrchu'r pyrsiau coch a du hyfryd.
Rydym ni yn Cadwyn yn ymweld â nhw ac yn cadw mewn cysylltiad â nhw i'w cynghori a, thrwy gyfrwng y we fyd-eang, gallwn yn awr gynnig peth o'u cynnyrch i bobl ledled y byd. Yr ydym bellach yn eu cyfri'n gyfeillion personol.
Gwybodaeth am Burkina Faso - Ein polisi Masnach Deg - Yn ôl i 'Yn Arbennig o'r Affrig'
![Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link] Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link]](includes/templates/classic/images/logo.gif)





