Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Llwy Cadwyn Cariad 30ain Penblwydd Priodas - 021a

GBP - £49.50
USD (approx) - $65.32
EUR (approx) - €55.38

Rydym wedi cynhyrchu'r llwy cadwyn cariad yma er mwyn dathlu'r 30ain penblwydd priodas. Ceir dwy gloch sy'n symbol o briodas gariadus, ac oddi tano ceir y ffigwr 30 wedi'i gerfio'n gain i mewn i'r galon fawr. Oddi tanynt ceir dau ddiamwnt, a dwy galon fechan. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas ar y ddwy galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu'r penblwydd priodas.

LLOSGYSGRIFENNU: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.

Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.

UCHDER: 34cm / 13"

Achlysuron: Penblwydd Priodas 30

Ystyr a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosg-Ysgrifennu


Ychwanegu i'r Fasged Siopa:

Dewiswch:

Llosgysgrifennu:




Cynnwys llyfr Llwyau Caru




Cynnwys Bag Rhodd Llwyau Caru




Hawlfraint © 2017 | Anrhegion Cadwyn Gifts