Tlysau a Chlustdlysau Llwyau Caru - Sefydlwyd Gemwaith Rhiannon yn Nhregaron ym 1971 gan Rhiannon Evans, Cymraes ifanc a diddordeb arbennig mewn celf a chrefft a'r diwylliant Cymraeg. Oriel a chanolfan grefftau oedd ei busnes yn wreiddiol, ond yn dilyn ymweliad ag arddangosfa o emwaith a thrysorau Celtaidd, dysgodd ei hun i wneud gemwaith, ac ers hynny mae ei chynlluniau arbennig wedi bod yn llwyddiant rhyngwladol.
Serch hynny, gwnaed pob darn o emwaith Rhiannon a llaw yn Nhregaron o hyd. Er bod y ganolfan wreiddiol wedi tyfu mae hi'n dal wedi ei lleoli yn yr un adeilad, yng nghanol tref farchnad hanesyddol Tregaron, ac mae Rhiannon a thri o'i meibion yn sicrhau bod y cwmni yn parhau i fod yn fenter deuluol Gymraeg.
![Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link] Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link]](includes/templates/classic/images/logo.gif)







