
Raffia yw'r mwyaf o'r coed Palmwydd. Caiff y ffibr cryf ei gynhyrchu o'u dail enfawr. Madagascar yw un o wledydd tlotaf y byd sydd wedi dioddef yn enbyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i gorwyntoedd ddinistrio'r coed gan ddryllio sail economaidd nifer o gymunedau'r ynys.
Rydym yn cydweithio â nifer o fentrau (a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd) sy'n ymwneud ag ailgoedwigo, a hybu'r economi leol a gwarchod cynefinoedd naturiol.
Mae cwmnïau cydweithredol lleol yn defnyddio'r ffibr gan wehyddu â llaw er mwyn creu Bagiau Haf lliwgar.
![Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link] Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link]](includes/templates/classic/images/logo.gif)



