Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Newyddion Cadwyn

SATURDAY 01 JANUARY, 2011 | Ffrwd RSS

Anrhegion Dydd Santes Dwynwen

gan Meinir Ffransis | 471 sylw

Dydd Santes DwynwenDethlir Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru ar y 25ain o Ionawr. Yn debyg i'r hyn sy'n digwydd ar ddydd San Ffolant, bydd cariadon yn aml yn rhoi cardiau ac anrhegion i'w gilydd ar Ddiwrnod Sant Dwynwen.

Dwynwen yw Nawddsant Cariadon Cymru, a bu'n byw yn ystod y 5ed ganrif, yn un o'r harddaf a mwyaf crefyddol o 24 merch Brychan Brycheiniog.

Pwyswch yma i weld nwyddau sy'n addas fel anrhegion Diwrnod Santes Dwynwen.

Yn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.

Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.

Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.

Fe drodd Dwynwen yn leian a mynd i fyw ar Ynys Llanddwyn, lle bu farw o achosion naturiol tua 460AD. Erys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!

Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.

Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.






Newyddion ar gyfer Wednesday 01 December, 2010


Gweld yr holl newyddion ar gyfer Wednesday 01 December, 2010 ar un dudalen




Archif Newyddion

Hawlfraint © 2013 | Anrhegion Cadwyn: Ffôn. 01559 384378 | Ebost. archebion@cadwyn.com | Pwerir gan Zen Cart