Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Ynghylch Cadwyn Cyf

Sefydlwyd Cadwyn fel cwmni cydweithredol yng nghefn gwlad Cymru yn nechrau’r saithdegau i hyrwyddo cynnyrch crefftwyr bach Cymreig. Erbyn diwedd yr wythdegau dechreuodd Cadwyn hefyd weithio gyda grwpiau o grefftwyr yng ngwledydd datblygol gogledd a gorllewin yr Affrig.

Sefydlwyd ein cwmni gan bobl oedd yng nghanol yr ymgyrchu i sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg ac i ennill rhyddid i Gymru gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd y byd a gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda phobloedd eraill.

Mae gan Cadwyn ddau nod sylfaenol sydd wrth gefn ein gweithgareddau i gyd:

  • i ddarparu cyfleoedd ar gyfer crefftwyr Cymru a’r byd datblygol i werthu eu cynnyrch ac ennill bywolioaeth, a thrwy hynny gryfhau seiliau economaidd y cymunedau hyn.
  • i drefnu’n gwaith yn y fath fodd i alluogi gweithwyr y cwmni i gael amser i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd dros gymunedau rhydd yn hytrach nac addoli’r farchnad "rydd".
Hawlfraint © 2010 | Anrhegion Cadwyn: Ffôn. 01559 384378 | Ebost. archebion@cadwyn.com | Pwerir gan Zen Cart