Mae gyda ni olwg personol iawn ar Fasnach Deg. Nid ydym yn defnyddio tic-flychau. Yn hytrach yr ydym yn adnabod yn bersonol y crefftwyr yn y gwledydd hyn sy’n cynhyrchu’r nwyddau. Mae ein syniad o Fasnach Deg yn codi o’n hadnabyddiaeth ohonynt a’n parch tuag atynt.
Rydyn ni’n eu nabod nhw, yn eu cyfri’n gyfeillion ac yn deall pa mor bwysig yw’r gwerthiant iddyn nhw., ac felly yrydym yn sicrhau fod y prisiau’n cael eu cadw i lefel sy’n cynyddu i’r eithaf eu gwerthiant nhw a rhoi bargen da I’r cwsmer. Mae’n rhaid fod pob cytundeb o’r fath yn deg i bob plaid er mwyn bod yn gynaladwy.
Ewch i gyfarfod a nifer o’r crefftwyr hyn wrth fynd trwy dudalennau’r wefan.Yn unol ag ystyr enw’n cwmni – CADWYN – gweithredwn fel dolen rhwng y crefftwyr a’n cwsmeriaid ac yn eich galluogi i ddod o hyd i anrhegion cwbl unigryw sy’n werthfawr ar lawer cyfri.
![Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link] Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link]](includes/templates/classic/images/logo.gif)

