Traddodiad y Llwy GaruYn wreiddiol byddai gwyryn eu cerfio a'u cyflwyno i'w cariadon fel arwydd o'u serch |
|
|
Cychwynnodd
y traddodiad o gerfio a rhoi Llwy Garu yng Nghymru gannoedd
o flynyddoedd yn ôl. Yn wreiddiol byddai gwyr ifanc yn eu cerfio
ac yn eu cyflwyno i'w cariadon fel arwydd o'u serch. Dywedir hefyd fod
rhoi a derbyn Llwy Garu, mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn fath o ddyweddiad
fel y rhoddir a derbyn modrwy heddiw.
Llwyau Caru - Casgliad llawn o Lwyau Serch.
Arddangosir rhai o'r Llwyau Caru cynnar yn yr Amgueddfa Werin yng Nghaerdydd. Mae yno un, yn wir, a wnaed ym 1667.Dros y blynyddoedd, wrth i'r Llwyau Caru ddod yn fwy cain ac addurnol, daethant yn bethau i'w casglu. Mae gwraig ym Merthyr Tudful sydd yn berchen ar gasgliad o dros bedwar cant o lwyau. Wrth i'r llwyau dyfu'n fwy cain byddai'r cerfwyr yn dangos eu medrusrwydd trwy gerfio gwahanol symbolau yn y pren.Roedd i bob un o'r symbolau yma ei ystyr ei hun, er enghraffit, golygai cadwyn awydd cwpwl i fod gyda'i gilydd yn dragywydd, golygai diamwnt gyfoeth, golygai croes ffydd, dangosai blodyn serch, ayb. Heddiw, yn ogystal a bod yn rhodd i berson annwyl neu'n gofrodd o ymweliad â Chymru, rhoddir llwyau serch ar achlysuron arbennig fel priodas, penblwydd priodas, penblwydd, dyweddiad, genedigaeth, bedydd, dathlu cartref newydd, anrheg ffolant ac ar Wyl Santes Dwynwen ac yn y blaen. |
![]() |
Llwyau Caru - Casgliad llawn o Lwyau Serch: www.cadwyngifts.com Cadwyn Cyf, Dolwerdd, llanfihangel ar Arth, Cymru, 01559384378 |