Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd


Dosbarthu & Dychweliadau

Rydym yn danfon ein nwyddau ledled y byd trwy Post Dosbarth Cyntaf DU neu Post Awyr RHYNGWLADOL. Rhaid bod rhywun yn y cyfeiriad a roddir ar ddiwrnod dosbarthu i dderbyn y pecyn. Os na fydd rhywyn yn bresennol, bydd cerdyn yn cael ei adael gyda cyfarwyddyd ynglyn a sut i gasglu'r pecyn.

Cyfraddau Cludiant, Dosbarthu a Phrosesu

Rydym yn codi £5 GBP am ddanfon, dosbarthu a phrosesu pob archeb ledled y byd. Ni fydd yna gost anfon archebion adwerthol dros £75 GBP. Caiff hyn ei gyfrif yn awtomatig gan ein system.

Rydym yn derbyn Visa, Mastercard, Switch, Solo a American Express - Defnyddir Sterling Yng Nghymru, ac felly mae'r holl brisiau ar y wefan wedi eu nodi yn y Bunt Brydeinig (£). Pan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn credyd i brynu nwydd, bydd y swm yn cael ei dynnu o falans eich cerdyn credyd yn eich arian cyfred chi yn awtomatig. Defynddiwch ein Newidydd Arian i weld beth yw'r pris yn eich arian cyfred chi Newidydd Arian Cyfred

Faint o amser gymerith hi i brosesu a danfon yr archeb?

Caiff pob archeb ei danfon ar ôl cael cadarnhad o ddilysrwydd cerdyn credyd a phrosesu'r archeb. Cymer hyn llai na dau ddiwrnod gwaith fel arfer. Dylai'r archeb gyrraedd ymhen 1-2 ddiwrnod ar ôl danfon tu fewn i Brydain, o fewn 3-4 diwrnod ar dir mawr Ewrop, o fewn 4-5 diwrnod i America neu 6 diwrnod ledled y byd. AMCANGYFRIFON yw rhain, ac NID OES modd eu gwarantu.

Mae'r nwydd fel arfer mewn stoc onibai bod nodyn ger y disgrifiad o'r nwydd. Byddwn yn cysylltu trwy ebost os, am unrhyw reswm, nad yw'r nwydd mewn stoc.

Pecynnu

Caiff ein nwyddau eu pecynnu mewn paciau swigod a'u gosod mewn blychau cryf neu amlen postio wedi padio, er mwyn osgoi toriadau. Os y dymunir gellwn gynnwys neges ar gerdyn gyda pob archeb.

DYCHWELIADAU

1. Os digwydd i becyn gyrraedd wedi ei ddifrodi neu os ydym wedi gwenud camgymeriad wrth brosesu eich archeb, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a rhown gyfarwyddiadau i chi ynglyn â'ch camau nesaf. Caiff unrhyw nwyddau sydd wedi eu difrodi neu sy'n ddiffygiol eu cyfnewid yn rhad ac am ddim, os rhowch wybod i ni o fewn 30 diwrnod.

2. Os nad ydych yn gyfangwbl hapus, am ba bynnag rheswm, gyda unrhyw nwydd a dderbynioch, gellir dychwelyd y nwydd ac fe dderbyniwch ad-daliad llawn (ag eithrio cost anfon). Cofier, rhaid cael caniatad ymlaen llaw gan Cadwyn Cyf i ddychwelyd unrhyw nwydd. Cysylltwch â ni trwy roi caniad neu anfon e-bost gan esbonio'r broblem, ac fe rown gyfarywddyd i chi.

3. Rhaid dychwelyd pob eitem yn ei gyflwr gwreiddiol (h.y. heb ei ddefnyddio)

4. Nid yw Cadwyn Cyf yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'r nwyddau wrth iddynt gael eu dychwelyd. Rydym yn argymell felly eich bod yn yswirio'ch cludiant wrth ddychwelyd y nwyddau.

Hawlfraint © 2010 | Anrhegion Cadwyn: Ffôn. 01559 384378 | Ebost. archebion@cadwyn.com