
Niger yng Ngorllewin Affrig yw gwlad dlotaf y byd. Mae diffyg maeth a newyn yn broblemau parhaol i blant tan 5 oed. Bu newyn enbyd yn y wlad yn 2005, wedi’i achosi’n rhannol trwy fod yr IMF wedi mynnu y dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar hybu cnydau at allforio yn lle bwydo’u plant eu hunain.
Mae angen cymorth yn syth ar bobl Niger ac hefyd gyfle teg I ddatblygu masnach gynaladwy. Mae CADWYN wedi gweithio gyda Chylchoedd Cydweithredol Crefftwyr Maradi a Dakoro yn ardal dlotaf y wlad. Yr ydym yn cynnig i chwi gynnyrch eu gwaith – llwyau pren wedi’u haddurno ( gyda’r holl elw’n muynd at waith Cymorth Cristnogol yn Niger ) ac hefyd pyrsiau lledr o waith llaw yr ydym yn eu marchnata I ddatblygu eu masnach.
Mwy o wybodaeth am Niger - Ein polisi Masnach Deg - Yn ôl i 'Yn Arbennig o'r Affrig'
![Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link] Anrhegion o Gymru ac Anrhegion Masnach Deg o'r Byd[home link]](includes/templates/classic/images/logo.gif)




