Dewiswch rhwng pâr mewn pren naturiol, mewn gorffeniad tywyll, neu un yr un. Rhan o gasgliad "Angel y Cymoedd", wedi’u cerfio mewn pren o Gymru.
Mae'r modelau ynghrôg yn deneuach gyda rhuban coch i hongian.
Maint (tua): U 10.5cm, Ll 8cm, D 1cm (yr un)
Mae Paul Curtis wedi cerfio Llwyau Caru traddodiadol ers 30 mlynedd. Roedd yn dymuno creu rhywbeth arbennig i ddathlu'r Nadolig, ac yn gweddïo am ysbrydoliaeth. Canlyniad hyn oedd casgliad "Angel y Cymoedd", wedi’u cerfio mewn pren o Gymru.