Rydym wedi cynhyrchu'r llwy arbennig yma er mwyn dathlu'r 5ed penblwydd priodas. Mae'r ffigwr 5 wedi ei gerfio ar frig y llwy, ac oddi tano mae yna galon a chynllun cwlwm celtaidd. Gellir llosgi enwau'r par sy'n dathlu penblwydd priodas ar y galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth wr i'w wraig, neu wraig i'w gwr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r par sy'n dathlu penblwydd priodas.
LLOSGYSGRIFENNU: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
UCHDER: 25cm / 9.5"
Achlysuron: 5ed Penblwydd Priodas
Ystyr a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosg-Ysgrifennu