Un bandana, defnydd di-ben-draw!
Bandanas cryf, elastig, heb wnïad! Mae bandanas MWGW wedi'u gwneud o ficroffibr 100% polyester.
Mae modd gwisgo bandanas mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar gyfer pob math o achlysur:
sgarff pen, mwgwd wyneb, band chwys, band pen, band gwallt, clogyn, mantell pen, leinin helmet, balaclafa, sgarff gwddf, beanie, band arddwrn.
Mae'r bandanas hyn ar ffurf tiwb ac maent yn gwarchod rhag y gwynt, yn anadlu, yn amsugnol, yn feddal ac yn hyblyg.
Dilledyn ategol hanfodol ar gyfer yr oes newidiol sydd ohoni, ac sy'n addas ar gyfer oedolion a phlant.
Eitem: Bandana Tiwb Diwnïad
Defnydd: Polyester Spandex 130g
Maint: 25cmx50cm
Oed: Un maint i bawb
Golchi: 30°C
Dosbarthu: RHAD AC AM DDIM YN Y DG!