Mae Paul Curtis wedi cerfio Llwyau Caru traddodiadol ers 30 mlynedd. Roedd yn dymuno creu rhywbeth arbennig i ddathlu'r Nadolig, ac yn gweddïo am ysbrydoliaeth.
Canlyniad hyn oedd casgliad "Angel y Cymoedd", wediiu cerfio mewn pren o Gymru.
At hyn, mae wedi ychwanegu gerfluniau stori’r geni, gyda'r ddau gynllun ar gael naill ai mewn pren naturiol neu mewn gorffeniad tywyll.
Mae'r modelau ynghrôg yn deneuach gyda rhuban coch i hongian, tra bod y modelau sydd yn sefyll yn dod mewn pren mwy trwchus. Mae'r modelau sy’n sefyll yn siglo fel crud fel symbol o ofal cariadus Duw.