Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Anrhegion Masnach Deg

Mae cysyniad Cadwyn o Fasnach Deg yn deillio o'n parch a'n cyfeillgarwch gyda'r cwmnïau cydweithredol a'r mentrau Teulu traddodiadol yn Affrica sy'n cynhyrchu'r nwyddau.

Rydym yn sicrhau bod y crefftwyr yn cael pris teg am eu gwaith ac yn ymweld â nhw yn rheolaidd i drafod a chynllunio cynhyrchiad, cynorthwyo gyda chyllid, a rheoli ansawdd.

Rydym yn aml yn cymryd rhan mewn prosiectau cymdeithasol ehangach megis gweithio i ariannu rhan o brosiect Medecins Sans Frontieres ym Marradi, Niger, pan darwyd yr ardal o'r wlad yr oedd ein crefftwyr yn byw ac yn gweithio ynddi gan newyn ofnadwy.

DIOLCH * THANKS * MERCI * SHUKRAN * MEDASI * INICE * BARAKA * AKPE * ABLO * JAARAAMA * OGIWADONG * NA GODE * TANUMERT