Mae'r goeden Thuya brydferth bron yn unigryw i ardal gorllewinol mynyddoedd yr Atlas yng ngogledd yr Affrig. Mae nifer o gwmniau cydweithredol o grefftwyr yn cynhyrchu'r anrhegion pren unigryw ar gyfer dynion a gwragedd gan ddefnyddio'r adnodd naturiol a sgiliau traddodiadol.
Gallwch ddewis anrhegion megis y blwch rhosyn gyda'i rosyn coch mawr ar y clawr, neu beth am y Blwch Hud gyda'i allwedd cudd yn un o'r panelau cyfrinachol a chyfarwyddiadau am sut i ddod o hyd iddo. Mae gennym hefyd gistau trysor a blychau gemwaith. Os oes yn well ganddoch anrheg ymarferol yna gallwn argymell y daliwr beiro mewn pren thuya.
Mwy o wybodaeth
- Gwybodaeth am bren Thuya, y goeden thuya, ty crefftwyr a chynaladwyedd.
- Gadewch i ni eich cyflwyno chi i'r ardal ac i rhai o'n ffrindiau a chrefftwyr sy'n cynhyrchu'r anrhegion hyfryd yma.
- Darllenwch ychydig am Morocco Mynyddoedd yr Atlas a thre Essaouira.