Cardiau Nadolig Batik

Artisan Millogo Paul

Daw’r Cardiau Cyfarch hyn - wedi’u haddurno trwy grefft draddodiadol Batik - atoch yn uniongyrchol o Burkina Faso yng Ngorllewin Affrig ac y maent yn portreadu bywyd pentrefol Affricanaidd. Mae’r grefft hon o ddefnyddio gwer a lliw wedi’i defnyddio ers canrifoedd ac y mae’r golygfeydd pentrefol a bortreadir hefyd wedi parhau ers cenedlaethau.

Creir batik trwy ddethol rhannau o’r defnydd I’w cau allan trwy roi gwer poeth drostynt cyn lliwio’r defnydd. Mae’r rhannau hyn yn cadw o ganlyniad y lliw gwreiddiol.

Mae’r golygfeydd pentrefol yn addas fel cardiau cyfarch gwahanol ar gyfer amrywiaeth o achlysuron. Mae gyda ni hefyd set o gardiau “Nadolig trwy lygaid Affrica”.

Gwybodaeth am Burkina Faso

Nid oes nwyddau i'w rhestru yn y category yma.

Hawlfraint © 2018 | Anrhegion Cadwyn Gifts