Benin
Benin yw'r wlad yng Ngorllewin Affrig sy'n gartref i ddiwylliant Voudoun a drawsblanwyd i Haiti a rhannau eraill o Indiaid y Gorllewin trwy'r Fasnach Gaethweision. Daw'r lluniau cywrain appliqué oddiwrth y Cylch Cydweithredol o Grefftwyr sy'n gweithio o'r Amgueddfa Genedlaethol yn Abomey – tref hanesyddol yn ne'r wlad.
Abomey oedd prif-ddinas Teyrnas Dahomey a sefydlwyd tua 1625. Codwyd plasau brenhinol Abomey gan y bobl Fon (nid Sir Fon !) rhwng yr 17eg ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladweithiau pridd hyn ymhlith y safleoedd hanesyddol pwysicaf yng Ngorllewin Affrig ac fe'u diogelir gan UNESCO yn Safleoedd Etifeddiaeth Byd.
Cafodd y dref ei hamgylchynu gan wal bridd chew milltir o hyd gyda chwe phorth. Cafodd ei hamddiffyn gan ffos 2 fedr o ddyfnder a lanwyd gan acacia pigog yn ol arfer y rhanbarth. O fewn y muriau hyn, bu pentrefi, plasau brenhinol, marchnadoedd a chaer. Gorchfygwyd Behanzin, eu Llyw Olaf, gan y Ffrancod ym 1892, a llosgodd y dref cyn dianc I ganol y wlad I'r gogledd. Ailadeiladwyd y dref gan y Ffrancod a'Iichysylltu a'r arfordir trwy reilffordd.
Mae'r rheilffordd honno'n dal yn weithredol heddiw – ond yn arafach o lawer gan fod yn rhaid i'r trenau stopio'n aml wrth groesi ffyrdd ! Mae plasau brenhinol Abomey – a godwyd gan y 12 brenin rhwng 1625 a 1900 – yn tystio i deyrnas a gollwyd. Defnyddir eu symbolau brenhinol ar y lluniau appliqué hir.
Ers 1993 adferwyd 50 o'r 56 llun-gerflun i waliau Plas y Brenin Glele, ac fe adnabyddir y lle nawr fel “Salle des Bijoux”. Mae'r llun-gerfluniau hyn yn portreadu hanes a grym y bobl Fon ar ffurf iconograffeg. Nid Abomey bellach yw tref bwysicaf y wlad, ond fe erys yn ganolfan hanesyddol o bwys gyda thraddodiad celf. Mae poblogaeth o dua 70,000.