Burkina Faso
Mae bywyd yn galed yn ardal y Sahel o orllewin Affrig rhwng y Sahara i'r Gogledd a'r coedwigoedd i'r De. Mae tiroedd llwyni (brousse) Burkina, Mali a Niger ymhlith ardaloedd tlotaf y byd, ond gobeithiwn ddangos i chwi fod gobaith yn fyw ymhlith eu pobl.
Gellwch glywed y gobaith yn eu cerddoriaeth, gellwch weld y gobaith yn eu gwisgoedd lliwgar, a chewch adnabod y gobaith yn athrylith eu crefftau, ac yn newrder y crefftwyr sy tan anfantais gorfforol. Gwelwch gardiau cyfarch a wneir trwy gelf batik traddodiadol ac hefyd Matiau Diod wedi'u gwneud gan grefftwyr tan anfantais gorfforol ar ein tudalen siopa Affricanaidd.
Does dim môr nag afonydd o bwys na manteision naturiol yn y wlad heblaw am obaith ei phobl. Daeth ei phrif-ddinas yn ganolfan ar gyfer gwyliau celfyddydol o bwys i Affrig gyfan. Bob yn ail flwyddyn, cynhelir FESPACO – yr Wyl Ffilmiau pan-Affricanaidd – a'r flwyddyn ganlynol SIAO – yr Wyl Grefftau ban-Affricanaidd.
Kwadogodo yw'r enw More a roddir ar y brifddinas gan y bobl Mossi, sef y prif bobl yn yr ardal. Daeth yn farchnad o bwys ac yn fangre cyfarfod gyda masnachwyr o'r llwyth Dioula a phobloedd symudol o'r gogledd fel y Peul a'r Touaregs. Pan orchfygwyd y wlad gan y Ffrancod, rhoddwyd orgraff Ffrangeg ar yr enw gan alw'r brif-ddinas yn Ouagadougou.
Bu Ouagadougou yn dref gymharol fach nes ei datblgyu gan y Ffrancod yn y 19eg ganrif yn ganolfan weinyddol o bwys. Heddiw mae ynddi bron miliwn o drigolion gyda senedd-dy a'r plas brenhinol. Mae rheilffordd yn cysylltu'r brif-ddinas gyda'r ail ddinas (Bobo Dioulasso) ac ymlaen i Abidjan fil o filltiroedd I ffwrdd ar arfordir y Cote d'Ivoire. Mae'r Undeb Europeaidd yn helpu cyllido gwelliannau i'r ffordd fawr i Naimey, prif-ddinas Niger, i'r dwyrain, ond fe erys y ffordd i Mali (gogledd-orllewin) yn antur llychlyd!
Mae modd cyrraedd y wlad o Ewrop trwy Air France o Baris, Air Burkina o Baris, Royal Air Maroc o Casablanca, Air Algerie heibio Alger a thrwy Gwmni Awyr Libya. Am westy resymol yng nghanol y brifddinas, argymhellwn Hotel Belle Vue (Tel-00226 50308498), a Chlwb Zaka am adlonaint Affricanaidd byw. Mae'r Cwmni Teithio Ffrengig www.point-afrique.com yn trefnu gwyliau anturus trwy holl wledydd y Sahel. Mae gwybodaeth o'r iaith Ffrangeg yn hanfodol o ran teithio yn y gwledydd hyn ac fe'I defnyddir yn lingua franca rhwng y gwahanol bobloedd brodorol.