Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Dewi Sant, Nawddsant Cymru

Dydd Gŵyl Dewi - Mawrth 1af

Dewi Sant yw nawddsant Cymru, ac ymhlith seintiau Prydain ac Iwerddon ef yw'r unig un sy'n perthyn i'r genedl y mae'n nawddsant iddi. Bu farw Dewi ar  Fawrth 1af oddeutu 589 AD, a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn. Dyma'r diwrnod lle'r ydym yn gwisgo cenhinen neu genhinen bedr, ac yn chwifio baneri Cymru gyda balchder.

Dewi Sant
Pwyswch yma i weld ein casgliad o Faneri Cymreig neu pwyswch yma am anrhegion eraill o Gymru.

Cafodd Dewi ei wneud yn nawddsant i ni yng Nghymru bron i fil o flynyddoedd yn ôl yn ystod uchafbwynt rhyfel y Cymry yn erbyn byddinoedd Edward 1af o Loegr.

Heddiw mae pawb sydd â chysylltiadau Cymreig yn dathlu ar Fawrth 1af. Yng Nghymru benbaladr, bydd  plant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau, a bydd nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl gyda siaradwr gwadd yn eu hannerch.

Cynhelir gorymdaith Genedlaethol Flynyddol yng Nghaerdydd ar ddydd Gŵyl Dewi. Mae Gorymdaith Dewi Sant yn achlysur Cymreig sydd yn agored i bawb. Cyfle i bobl Cymru, o bob oedran, cefndir ethnig neu gefndir cymdeithasol i ymuno mewn dathliad creadigol ac urddasol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd hefyd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau. Yn yr Unol Daleithiau yn 2006, cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar Fawrth 1af cafodd yr 'Empire State Building' ei oleuo'n goch, gwyn a gwyrdd.

Pwy oedd Dewi Sant?

Ganwyd Dewi Sant tuag diwedd y bumed ganrif, llai na chant o flynyddoedd wedi i'r olaf o lengoedd Rhufain adael Cymru. Roedd Sandde, tad Dewi yn etifedd teulu brenhinol Ceredigion. Enw ei fam oedd Non, merch i Gynyr o Caio, a chafodd nifer o eglwysi a ffynhonau sanctaidd yng Nghymru, Cernyw a Llydaw eu henwi ar ôl Non. Cafodd Dewi ei addysg yn Henfynyw yng Ngheredigion, lle dysgodd am hanes, trefn a llenyddiaeth yr eglwys.

Sylfaenodd gymuned fynachaidd Geltaidd yng Nglyn Rhosyn, ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, yn y man lle saif Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Mae'n bosib i'r safle fod yn gartref i gymuned grefyddol gynnar iawn. Mae Sant Padrig hefyd yn gysylltiedig gyda'r safle, ganwyd Sant Padrig yn Ne Cymru, a dywedir iddo dreulio ychydig o amser yng Nglyn Rhosyn cyn hwylio i Iwerddon o Porth Mawr.

Tyfodd enwogrwydd Dewi fel athro drwy'r byd Celtaidd. Roedd Dewi yn byw bywyd llwm, fel pob mynach Celtaidd arall - yn wir cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr. Mae yna nifer fawr o chwedlau yn ymwneud â Dewi. Efallai mai'r enwocaf yw'r bregeth yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion. Pan oedd yn annerch torf enfawr fe gododd y tir o dan ei draed er mwyn i bawb allu ei glywed yn siarad. Dywedir i golomen pig-aur lanio ar ei ysgwydd fel symbol o'i sancteiddrwydd.

Daeth y sefydliad yng Nglyn Rhosyn yn un o'r mannau cysegredig pwysicaf yn y byd Cristnogol, ac yn sicr yr un pwysicaf yng Nghymru: roedd llwybrau a heolydd drwy Gymru gyfan yn arwain tuag ato, ac yn y canol oesodd roedd dau bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain. Felly daeth Glyn Rhosyn yn ganolbwynt i ddyheadau crefyddol y genedl Gymreig.  Ysgrifennodd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis): "Fe ddaeth Esgobaeth Tyddewi... yn symbol o annibyniaeth Cymru... a dyna paham y dyrchafwyd Dewi ei hun i fod yn Nawdd sant Cymru."

Mae Mawrth 1af wedi ei gofnodi fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn â'r flwyddyn. Mae 588 yn bosiblrwydd. Wrth i'r mynachod yn Nglyn Rhosyn baratoi ar gyfer ei farwolaeth, dywedodd Dewi wrthynt: "Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi."

Darllen mwy