Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Ghana

Gweithiwn yn uniongyrchol gyda'r cylchoedd o grefftwyr sy'n creu'r cerfluniau pren er mwyn sicrhau masnach deg iddyn nhw a phris teg i'n cwsmeriaid.

Mae Ghana'n wlad o dair rhanbarth ddaearyddol. Ar hyd arfordir y de y lleolir y brif-ddinas Accra a'r porthladdoedd sy'n ganolbwynt gweithgarwch economaidd. Ceir yma hefyd hen gestyll yr Ewropeaid a drefnai gludo caethweision o'r trefi hyn i Indiaid y Gorllewin. Yn y gogledd o'r wlad, fe geir yr ardal sych Sahel sy'n cyffinio a Burkina Faso. Rhyngddynt y mae'r Coedwigoedd Glaw sydd wedi edwino'n enbyd yn ddiweddar.

Cadwyn yn trafod gyda'r artistiaid o dan coeden ym maes yr Amgueddfa Genedlaethol

Daw'r rhan fwyaf o'n cerfluniau pren o'r ardal hon yng nghanol y wlad. Dyma deyrnas hanesyddol yr Ashantis o gwmpas Kumasi – ail ddinas y wlad. Erbyn hyn mae datblygui crefftau yn rhan o Weinyddiaeth Datblygu Economaidd y Llywodraeth Ganolog, a rhoddir pwys mawr ar gadwraeth.

Am bob coeden a dorrir ar gyfer y gweithdai cerfluniau pren, fe blennir 3 choeden ychwanegol. Defnyddir cyn-botsiwyr i sicrhau gweithrediad y strategaeth hon ac fel hyn gwelir cadwraeth fel partner i fuddiannau pobl leol yn hytrach nag yn rhwystr. Mae Cadwyn yn ychwanegu at y strategaeth hon trwy gomisiynau crefluniau llai o faint (tua 30cm) sy'n cynnwys holl gywreinrwydd y cerfio heb wastraffu coed.

Cristnogion yw mwyafrif mawr y bobl yn y rhanbarth hon, ac fe dreiddia eu ffydd I bob rhan o fywyd – weithiau'n codi gwen ar wynebau tramorwyr. Fel welwch hen fysus sydd I'w gweld ar fin torri I lawr yn dwyn y geiriau “God never fails” , a sawl bar gydag enw fel “The Great Provider” !

Kumasi yw'r ganolfan hanesyddol bwysicaf yn y wlad, ac y mae'r cerfluniau'n portreadu bywyd Affricanaidd traddodiadol. Dyma oedd prifddinas y brenhinoedd Ashanti a lywodraethodd hyd nes eu disodli yn y 19eg gan y Saeson.

Symbol eu hannibyniaeth oedd y Stol Euraidd Ashanti a ddisgynodd, yn ol chwedl, o'r nef yn ymyl Kumasi. Mynnodd y Saeson feddiannu'r stol wedi gorchfygu'r bobl er mwyn dangos mai nhw bellach oedd yn llywodraethu. Gohiriodd y bobl Ashanti y trafodaethau am fis gan ddefnyddio'r amser i gynhyrchu ffug stol i'w rhoi i'r Saeson. Cadwyd y gwir stol ac fe'I cedwir o hyd ym Mhylas Brenhinol Manhyia.

Mae'r brenhinoedd Ashanti'n dal yn weithredol heddiw o'r un plas – mewn trefn gyfochrog gyda llywodraeth suful, fel ag sy'n digwydd yn gyffredinol yng ngwledydd Gorllewin Affrig lle gwelwn penaethiaid traddodiadol a ffurfiau ar lywodraeth suful yn gyfochrog. Mae bywyd y brenhinoedd yn syml iawn a'u plas yn agored I'r cyhoedd yn enghraifft o ddemocratiaeth Affricanaidd ar waith.

Yn ardal Ashanti Kumasi, fe geir y rhan fwyaf o'r cerfwyr pren traddodiadol ac fe drosglwyddwyd eu medrau o genhedlaeth I genhedlaeth. Gall rhan fach o'r deyrnas Ashanti fod gyda chwi.