Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Gwybodaeth am Lwyau Caru

Yr Hanes a'r Traddodiad

Welsh Love SpoonsCychwynnodd y traddodiad o gerfio a rhoi Llwy Garu yng Nghymru gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Yn wreiddiol byddai gwyr ifanc yn eu cerfio ac yn eu cyflwyno i'w cariadon fel arwydd o'u serch.

Dywedir hefyd fod rhoi a derbyn Llwy Garu, mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn fath o ddyweddiad fel y rhoddir a derbyn modrwy heddiw.

Arddangosir rhai o'r Llwyau Caru cynnar yn yr Amgueddfa Werin yng Nghaerdydd. Mae yno un, yn wir, a wnaed ym 1667.Dros y blynyddoedd, wrth i'r Llwyau Caru ddod yn fwy cain ac addurnol, daethant yn bethau i'w casglu. Mae gwraig ym Merthyr Tudful sydd yn berchen ar gasgliad o dros bedwar cant o lwyau.


Symbolau a'u Hystyron

Bu llawer o drafod ynglŷn ag arwyddocâd y symbolau gwahanol a ddefnyddir wrth gerfio llwyau caru. Roedd llawer o'r cerfwyr ifanc yn swil ac yn amharod i ddangos eu hemosiynau, a byddai hyn yn ymgais i gyfleu eu gwir deimladau drwy ddefnyddio symbolau amrywiol.

Dros y canrifoedd, mae llawer mwy o symbolau wedi cael eu hychwanegu, ac wrth i'r llwyau caru ddod yn fwy cymhleth ac addurnol, maent wedi dod yn eitemau i'w casglu.

Welsh Lovespoon Symbols - Bell CLOCH Priodas, neu dau gyda'i gilydd yn Gytun. Welsh Lovespoon Symbols - Horseshoe PEDOL Lwc dda.
Welsh Lovespoon Symbols - Ball in Cage PEL MEWN CELL Cariad wedi ei ddal yn ddiogel, neu, nifer o blant. Welsh Lovespoon Symbols - Key/keyhole ALLWEDD / TWILL CLO Mae fy nghartref yn gartref i tithau hefyd.
Welsh Lovespoon Symbols - Birds ADAR Adar serch, neu gad i ni ymadael gyda'n gilydd. Mae'r storc yn cynrychioli genedigaeth newydd. Welsh Lovespoon Symbols - Celtic Knot CLO Diogelwch, neu, mi ofalaf amdanat.
Welsh Lovespoon Symbols - Chain CADWYN Awydd i fod ynghyd am byth, neu nifer o blant. Welsh Lovespoon Symbols - Lock CWLWM, NEU, CLYMWAITH CELTAIDD. Cariad tragwyddol, neu, Gyda'n gilydd yn dragywydd.
Welsh Lovespoon Symbols - Cross CROES Ffydd yn lesu Grist, neu, Awydd i fôd ynghyd yng Ngrist . Welsh Lovespoon Symbols - Twisted Stem BONYN DIRDRO Dau fywyd yn ymuno i fod yn un.
Welsh Lovespoon Symbols - Diamond DIAMWNT Cyfoeth. Welsh Lovespoon Symbols - Welsh Dragon DRAIG Symbol Cymru.
Welsh Lovespoon Symbols - Heart CALON Serch

Y Cerfwyr

Paul CurtisCreadigaethau Paul Curtis a’i dim o grefftwyr yw ein llwyau, wedi’u cerfio yng nghymoedd de Cymru. Magwyd Paul Curtis yn Ne Cymru yn un o bedwar plentyn. Pan yn ifanc iawn darganfu ei ddawn am gerfio mewn pren a syrthiodd mewn cariad, â'r grefft.

Gwnaeth Paul lawer o lwyau serch wedi hyn ac ym 1985 roedd ei ddyluniau mor boblogaidd, penderfynodd gychwyn busnes bach yn gwneud Llwyau Caru.


Y Pren a'r Gorffeniad

The wood most widely used in carving our range of Welsh Love Spoons is Limewood sourced from Monmouthshire, south Wales. The wood is pale in colour and very uniform in character.

When Paul makes a love spoon, firstly the wood is selected and cut to a manageable size. Next the design is drawn onto the wood and the basic shape of the spoon is cut out.


Gwasanaeth llosgi enwau rhad ac am ddim

Mae Cadwyn yn awr yn cynnig gwasanaeth llosgi enwau, dyddiadau ac hyd yn oed negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar Lwyau Caru.

Mae’n broses syml ac unigryw. Dewiswch chi’r Llwy Garu o’r casgliad, a rhowch y manylion o’r geiriau yr hoffech eu cael ar y llwy. Bydd eich rhodd yn hollol unigryw yn y byd gan wneud yr achlysur yn un cwbl arbennig.