Anrhegion o Gymru a'r Byd
Cymraeg
  • English
  • Cymraeg
Anrhegion o Gymru a'r Byd
Basged 0

Moroco

Gwlad hudolus o fynyddoedd a môr ac yn borth rhwng Ewrop ac Affrica yw Morocco. Gwlad o wrthgyferbyniadau a lliwiau.

Mae ynddi hen borthladd cosmopolitanaidd Tanger, arfordir Môr y Canoldir, arfordir Iwerydd hir, prif-ddinas Casablanca, y trefi brenhinol hanesyddol o Fes, Marrakech, Rabat a Meknes, Mynyddoedd yr Atlas a'r Rif a rhan ogleddol diffeithwch y Sahara a chychwyn route y carafannau o gamelod I Mali. Fe welwch tu allan i Agadir arwydd “Tombouctou – 52 jours”! Mae pawb wedi clywed yr enwau ac mae ymweld a'r wlad yn brofiad son et lumiere go iawn.

Mae cynhyrchu crefftau'n rhan o addysg yn y souks ym Maroc a throsglwyddir medrau o genhedlaeth i genhedlaeth. Fe welwch luniau o nwyddau Bahije Ahmed o Marrakech sy'n cynhyrchu llawer o nwyddau lledr ac o nwyddau Ouakrim Ismail o Essaouira – crefftwr medrus mewn pren thuya. Maent yn ffrindiau personol i ni, ac mae Ahmed wedi treulio nifer o fisoedd gyda ni yma yng Nghymru.

Gwaith Cadwyn yw gweithio gyda chrefftwyr yn y souks i sicrhau fod nwyddau'n cael eu cynhyrchu fydd yn llwyddiannus yn Ewrop a'r Amerig ac yn sicrhau amodau masnach deg.


ESSAOUIRA A MYNYDDOEDD GORLLEWINOL YR ATLAS

Morocco

Mae mynyddoedd yr Atlas yn rhedeg yn gyffredinol o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio asgwrn cefn gwledydd gorllewinol gogledd yr Affrig. Maent yn rhedeg 1200 milltir o borthladd Agadir ym Moroco i brif Ddinas Tiwnisia, Tunis.

Mae nifer o ddyffrynoedd ffrwythlon iawn ym mynyddoedd yr Atlas, gan fod y copaon yn gorfodi'r cymylau i ollwng lot fawr o law, ac felly mae'n awyrgylch perffaith ar gyfer ffyniant y goeden Thuya.

Ar arfordir yr Iwerydd, lle cyffyrdda'r Mynyddoedd Atlas Canol a'r mor, y lleolir Essaouira. Mae cylch enfawr cydweithredol o grefftwyr wedi ffurfio yma, ac maent yn defnyddio eu sgiliau traddodiadol i gynhyrchu anrhegion mewn pren Thuya. Mae cylchoedd cydweithredol tebyg o grefftwyr yn trin pren unigryw thuya i'w gweld hefyd mewn rhannau eraill Mynyddoedd Gorllewinol yr Atlas.

Mae Essaouira yn yn hen dref gaerog a ddatblygwyd gan filwyr o Bortwgal. Dyma gyrchfan hipis y 60'au a llawer o artistiaid cyfoes. Mae'n dref las a gwyn ac y mae'r pren thuya hardd yn nodedig o'r ardal hon.

Tudalennau perthnasol eraill

MARRAKECH

Yn y canolfannau mawr fel Marrakech a Fes, mae ardaloedd a marchnadoedd cyfan (souks) o'r hen dre (medina) yn canolbwyntio ar grefft arbennig. Bydd souk lledr, souk crochenwaith, souk tlysau, souk gwaith metal, souk lliwio dillad, souk babouches (sliperi) etc.

Addysgir y plant yn y grefft draddodiadol, yn y K'ran yn ogystal ag addysg fwy confensiynol.

Dinas gaerog goch ar ganol gwastadedd uchel yw Marrakech gyda'r Mynyddoedd Atlas Uchel yn gefnlen drawiadol. Maes y dref – Place Jamaa el Fna – yw un o gyrchfannau enwocaf y byd, yn gymysgwch gyda'r hwyr o oleuadau, stondinau sudd oren, masnachwyr, dawnswyr a chantorion, hudolwyr nadredd a thwristiaid ceg-agored. Arhoswch yn Gwesty CTM (yr hen orsaf bysus) ar y maes ei hunan mewn stafell reit sylfaenol am £5 y noson er mwyn rhyfeddu at y cyfan. Yn y souk lledr y cynhyrchir ein bagiau unigryw o ledr iawn.