Brynteg - Carthen Ysgafn Aur
Mae gan y Garthen Ysgafn (Welsh Tapestry Throw) wehyddiad cain sydd ychydig yn wahanol ar y ddwy ochr. Mae'r patrwm yn seiliedig ar batrwm traddodiadol ac eiconig Caernarfon. Mae wedi'i orffen gyda rhimyn ar hyd 2 ochr. Mae'r garthen ysgafn yn mesur oddeutu 175cm x 150cm gan gynnwys y rhimyn ac yn berffaith i orchuddio cadair, soffa neu wely.
Gwnaed yn Nyffryn Teifi
Melin y Graig (Rock Mill) yw'r felin wlân olaf sydd wedi'i gyrru gan ddŵr yn barhaus yng Nghymru, a dyma gartref Y Garthen wlân. Wedi'i lleoli ar lan yr afon Clettwr ac yng nghanol Dyffryn Teifi, mae'r felin wedi bod yn cynhyrchu Carthenni gwlân a throws o'r ansawdd gorau ers 1890. Mae Donald Morgan yn defnyddio dulliau traddodiadol a drosglwyddwyd gan 4 cenhedlaeth o'i deulu.
Hanes Y Garthen
Ar un adeg roedd yr ardal hon o Gymru yn ganolbwynt cynhyrchu Carthenni gwlân, gyda dwsinau o felinau ar hyd yr Afon Teifi a'i llednentydd. Mae'r mwyafrif wedi hen ddiflannu, ond nid yw pob un wedi'i troi yn amgueddfa. Melin weithredol yw Melin y Graig, sy'n cynhyrchu ystod traddodiadol a chyfoes o garthenni ar gyfer cenhedlaeth newydd. Patrwm poblogaidd, ac efallai'r mwyaf adnabyddus yw Caernarfon. Mae'r patrwm cynnil tebyg i grid yn un sydd wedi dod yn gyfystyr â'r Garthen yn yr oes fodern. Yn draddodiadol, roedd Carthenni yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth a'u rhoi fel anrhegion ar achlysuron arbennig fel priodas a phen-blwyddi priodas.