{"product_id":"chives-welsh-tapestry-throw","title":"Sifysen - Carthen Ysgafn Werdd Olau ","description":"\u003cmeta charset=\"UTF-8\"\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003eMae gan y Garthen Ysgafn (Welsh Tapestry Throw) wehyddiad cain sydd ychydig yn wahanol ar y ddwy ochr. Mae'r patrwm yn seiliedig ar batrwm traddodiadol ac eiconig Caernarfon. Mae wedi'i orffen gyda rhimyn ar hyd 2 ochr. Mae'r garthen ysgafn yn mesur oddeutu 175cm x 150cm gan gynnwys y rhimyn ac yn berffaith i orchuddio cadair, soffa neu wely.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eGwnaed yn Nyffryn Teifi\u003c\/strong\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eMelin y Graig (Rock Mill) yw'r felin wlân olaf sydd wedi'i gyrru gan ddŵr yn barhaus yng Nghymru, a dyma gartref Y Garthen wlân. Wedi'i lleoli ar lan yr afon Clettwr ac yng nghanol Dyffryn Teifi, mae'r felin wedi bod yn cynhyrchu Carthenni gwlân a throws o'r ansawdd gorau ers 1890. Mae Donald Morgan yn defnyddio dulliau traddodiadol a drosglwyddwyd gan 4 cenhedlaeth o'i deulu.\u003c\/p\u003e\n\u003cp data-mce-fragment=\"1\"\u003e\u003cstrong data-mce-fragment=\"1\"\u003eHanes Y Garthen\u003c\/strong\u003e\u003cbr data-mce-fragment=\"1\"\u003eAr un adeg roedd yr ardal hon o Gymru yn ganolbwynt cynhyrchu Carthenni gwlân, gyda dwsinau o felinau ar hyd yr Afon Teifi a'i llednentydd. Mae'r mwyafrif wedi hen ddiflannu, ond nid yw pob un wedi'i troi yn amgueddfa. Melin weithredol yw Melin y Graig, sy'n cynhyrchu ystod traddodiadol a chyfoes o garthenni ar gyfer cenhedlaeth newydd. Patrwm poblogaidd, ac efallai'r mwyaf adnabyddus yw Caernarfon. Mae'r patrwm cynnil tebyg i grid yn un sydd wedi dod yn gyfystyr â'r Garthen yn yr oes fodern. Yn draddodiadol, roedd Carthenni yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth a'u rhoi fel anrhegion ar achlysuron arbennig fel priodas a phen-blwyddi priodas.\u003c\/p\u003e","brand":"Cadwyn Cyf","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":43606725689502,"sku":null,"price":189.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0606\/8669\/6606\/files\/chives-carthen-newydd.png?v=1782215758","url":"https:\/\/www.cadwyngifts.com\/cy\/products\/carthen-ysgafn-sifysen","provider":"Cadwyn Cyf","version":"1.0","type":"link"}