Llyfryn Llwy Garu - 070
Llyfryn dwyieithog darluniadol hwylus yn olrhain hanes y grefft o lunio llwyau caru mewn pren a deunyddiau eraill ynghyd ag arwyddocâd y patrymau a ddefnyddir. 24 tudalen gyda 33 llun lliw a 3 llun du a gwyn.
Elin Meek
Ganed Elin Meek yn Abertawe ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Mae wedi addasu toreth o lyfrau i blant ac oedolion dros y blynyddoedd.
Hi hefyd yw awdur cyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn, Y Ci Mawr Blewog yn y gyfres ar Wib ac Ennill y Ras yn y gyfres I'r Byw. Roedd ei nofel Ffion a'r Tîm Rygbi yn y gyfres Ar Wib ar Restr Fer Tir na n-Og yn 2006.
Medd Elin "Pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n arfer dwlu ar dreulio'r prynhawn yn darllen mewn sach gysgu gyda phentwr o lyfrau wrth law... Mae llyfrau wedi bod fel ffrindiau gorau i mi erioed. Felly, mae'n braf iawn cael addasu ac ysgrifennu llyfrau a gobeithio y bydd ambell lyfr yn ffrind gorau i rywun arall."