Rydym wedi cynhyrchu'r llwy arbennig yma er mwyn dathlu'r 60ain penblwydd (neu benblwydd priodas). Mae'r ffigwr 60 wedi ei gerfio ar frig y llwy, ac oddi tano mae yna galon a chynllun cwlwm celtaidd. Gellir llosgi enw ar y galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy.
LLOSGYSGRIFENNU: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
UCHDER: 25cm / 9.5"
Achlysuron: Penblwydd 60
Ystyr a Symbolau - Cerfwyr - Hanes - Llosg-Ysgrifennu