Caiff yr anrhegion hardd yma eu gwneud â llaw gan gwmni Masnach Deg Kisac a grwpiau eraill yn y dalaith Kisii o Cenya ger Llyn Victoria. Mae llawer o'r eitemau yn cynnwys calonnau fel anrhegion i anwyliaid, ac ysbrydolir cynlluniau eraill gan fywyd gwyllt Affricanaidd a golygfeydd pentref.
Mae sebonfaen Kisii yn unigryw yn y byd. Mae’n gadarn, yn gymharol hawdd i'w gerfio, a gellir dod o hyd iddo yn y lliwiau mwyaf trawiadol: o wyn, i farmor pinc a llwyd, melyn, hufen a du.
Mae’r garreg yn cael ei mwyngloddio ym mryniau Kisii yn Kenya, a defnyddir morthwylion, ceibiau a chynion i gloddio â llaw. Torrir y cerrig i siapiau syml gyda chyllyll, bwyeill a llifiau, cyn eu cludo gan y gweithlu allan o'r mwyngloddiau.
Mae’r cerfio hefyd yn cael ei wneud yn gyfan gwbl â llaw, a gwneir yr offer yn lleol o fetel wedi'i ailgylchu. Mae'r rhan fwyaf o ddynion o amgylch pentref Tabaka, sef prif ardal cynhyrchu sebonfaen yn gwybod sut i gerfio. Mae dysgu anffurfiol yn digwydd mewn teuluoedd gyda’r bechgyn yn gwylio eu tadau yn cerfio.
Gelwir y broses o ‘sandio’ yn ‘golchi’, oherwydd ei fod yn cael ei wneud mewn d?r. Menywod yn bennaf sy’n gwneud y gwaith yma. Mae’n waith dwys o ran llafur gyda pob darn yn cael ei sandio hyd at 6 gwaith.
Yn dibynnu ar y cynllun, gellir gadael darn yn "naturiol", gan arddangos lliwiau y garreg ei hun, neu gellir ei haddurno. Yn gyntaf mae lliw yn cael ei ychwanegu i ddarn, ac yna caiff y manylion eu hysgythru i mewn i'r lliw sydd wedyn yn ymddangos yn wyn, a chaiff y darn gorffenedig ei loywi.
Mae Kisac yn aelod o nifer o rwydweithiau Masnach Deg gan gynnwys Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO), Menter Gydweithredol dros Fasnach Amgen yn Affrica (Cofta) a Ffederasiwn Masnach Amgen Kenya (Kefat) ac yn cadw at egwyddorion Masnach Deg fel y nodir gan y WFTO.